City Link: Disgwyl trafodaethau

  • Cyhoeddwyd
City Link
Disgrifiad o’r llun,
Roedd safle City Link yn Ffynnon Taf ger Caerdydd ar gau fore Gwener

Mae arweinwyr undeb yn paratoi i gynnal trafodaethau gyda'r gweinyddwyr sydd wedi eu penodi ar gyfer cwmni parseli City Link.

Fe wnaeth y cwmni, sy'n cyflogi 90 o weithwyr yng Nghymru, gyhoeddi ar noswyl Nadolig eu bod wedi cael eu rhoi yn nwylo'r gweinyddwyr.

Mae gan y cwmni dair canolfan yng Nghymru, yn Ffynnon Taf (44 o weithwyr) , Abertawe (30) a Gaerwen , Ynys Môn (16). Ar draws y DU, maen nhw'n cyflogi 2,727 o bobl.

Ddydd Sadwrn dywedodd Geoff Martin o undeb RMT y byddai'r undeb yn cwrdd â'r gweinyddwyr.

Roedd City Link, sy'n berchen i gwmni buddsoddi Better Captial, wedi galw'r gweinyddwyr ar ôl blynyddoedd o "wneud colledion sylweddol".

Roeddan nhw eisoes wedi rhoi'r gorau i dderbyn parseli gan gwsmeriaid yn eu pencadlys a'u prif ganolfannau dosbarthu, yn ogystal â'r 53 safle ar draws y DU.

Mae'r gweinyddwyr, Hunter Kelly ac Ernst & Young ar y cyd, wedi rhybuddio bod disgwyl "diswyddiadau niferus" dros y dyddiau nesa', gan nad oes prynwr wedi dod i'r fei hyd yma.