Tân yn difordi bysiau ym Merthyr
- Published
Mae Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru a'r heddlu yn ymchwilio ar ôl i dân ddifrodi 30 o fysiau ym Merthyr Tudful.
Yn ogystal â'r 30 o fysiau, fe gafodd pum bws mini a char eu dinistro.
Cafodd 40 o ddiffoddwyr eu galw i reoli'r tân mewn depo ar Stâd Ddiwydiannol Pant am 01:00 dydd Sul.
Dywedodd llefarydd ar ran y Gwasanaeth Tân: "Fe wnaeth ein hymateb cyflym i'r sefyllfa atal y fflamau rhag lledu i fusnesau cyfagos."
Dywed yr heddlu eu bod wedi cau'r A465 am gyfnod oherwydd mwg, a bu'n rhaid dargyfeirio traffig.
image copyrightEmpics