Dau yn yr ysbyty wedi ffrwydrad yn ardal Sanclêr
- Cyhoeddwyd
Mae dynes a phlentyn wedi cael eu cludo i'r ysbyty ar ôl ffrwydrad nwy yn Sir Gaerfyrddin.
Ffwrn oedd achos y ffrwydrad, gyda ffenestri'r tŷ yn cael eu chwalu.
Cafodd y gwasanaethau eu galw i'r tŷ ger y Savoy Country Inn, rhwng Sanclêr a Llanddowror, am 08:55 ddydd Sul.
Ar ôl cael triniaeth ar y safle, fe aeth â'r ddau i'r ysbyty rhag ofn bod angen unrhyw driniaeth pellach.
Yn ôl llefarydd ar ran Gwasanaeth Achub Canolbarth y Canolbarth a'r Gorllewin: "Cafodd y ffrwydrad ei achosi gan ffwrn oedd heb ei ddiffodd."