BBC Cymru Fyw

Dyn yn cael ei holi ynglŷn â marwolaeth dynes o Aberpennar

Published
image copyrightGoogle
image captionCafodd yr heddlu eu galw i Drawlings Close, Llaneirwg, fore dydd Sadwrn
Mae'r heddlu yng Nghaerdydd yn ymchwilio i farwolaeth dynes 46 oed o ardal Aberpennar.
Cafodd yr heddlu eu galw i ddigwyddiad yn Llaneirwg ychydig wedi 09:30 dydd Sadwrn.
Dywedodd llefarydd ar ran yr heddlu fod rhywun wedi ymosod ar y ddynes.
Mae dyn 66 oed o Laneirwg wedi cael ei arestio mewn cysylltiad â'r farwolaeth ac mae'n cael ei holi yng ngorsaf canol Caerdydd.
Yn wreiddiol roedd y dyn wedi cael ei arestio ar amheuaeth o ymosod.
Dywed yr heddlu nad ydynt yn chwilio am unrhyw un arall mewn cysylltiad â'r digwyddiad.