'Sbwriel: Ymateb cynghorau yn gwella

  • Cyhoeddwyd
'Sbwriel yng Nghaerdydd
Disgrifiad o’r llun,
Mae mwy na 95% o gynghorau Cymru wedi cofnodi bod 'sbwriel o'r fath wedi ei lanhau o fewn pum niwrnod yn ystod 2013/14.

Mae perfformiad cynghorau Cymru wrth geisio cael gwared ar 'sbwriel sy'n cael ei waredu yn anghyfreithlon wedi gwella, yn ôl ffigyrau diweddara llywodraeth Cymru.

Fe wnaeth mwy na 95% gofnodi fod 'sbwriel o'r fath wedi ei lanhau o fewn pum niwrnod yn ystod 2013/14.

Mae hynny'n cymharu ag ychydig dros 92% yn y flwyddyn flaenorol a 91.3% yn 2011/12.

Blaenau Gwent oedd a'r record orau, gan gyrraedd 100%.

Cafodd cyfanswm o 31,301 o achosion o 'sbwriel anghyfreithlon eu nodi ledled Cymru, cynnydd bychan o gymharu â'r flwyddyn flaenorol.

Roedd ymateb y cynghorau yn amrywio o 80.2% ym Mro Morgannwg a 81.1% yng Nghastell-nedd Port Talbot i 99.2% yn Rhondda Cynon Taf, 99.1% yng Nghaerffili a 99% yn Sir Gâr.

Fe wnaeth Sir Ddinbych gofnodi 2,206 o achosion o 'sbwriel anghyfreithlon yn cael ei lanhau o fewn num diwrnod.

Ond dywedodd Kelvin Hughes, prif swyddog troseddau amgylcheddol Sir Ddinbych wrth y Daily Post fod yna anghysondeb yn y modd y roedd yr awdurdodau yn cadw cofnodion.

"Rydym ni o'r farn nad yw'r cyhoedd yn hidio pwy piau'r tir, mae o'n gwneud i'r sir edrych yn flêr ac rydym am osgoi hynny.

"Dyna pam rydym ni yn edrych ar 'sbwriel sy'n cael ei adael ar dir preifat yn ogystal â'r tir rydym ni yn gyfrifol amdano."

Disgrifiad o’r llun,
Mae'r ffigyrau yn cofnodi faint o sbwriel anghyfreithlon gafodd ei glirio o fewn pum niwrnod.