Carafanwyr yn treulio noson mewn gwesty

  • Cyhoeddwyd
Injan dân
Disgrifiad o’r llun,
Cafodd diffoddwyr eu galw am 16:13 ddydd Sul.

Bu'n rhaid i drigolion maes carafanau ym Magwyr, Sir Fynwy dreulio'r noson mewn gwestai wedi tân.

Cafodd diffoddwyr tân eu galw i Barc Preswyl Beeches yn Grangewood am 16:13 ddydd Sul.

Roedd un garafan ac un sied ar dân a diffoddwyr yn pryderu bod perygl o ffrwydrad oherwydd bod silindrau nwy ar y safle.

Roedd rhaid i 16 o bobl adael y safle ond ni chafodd unrhyw un eu hanafu.

Y gred yw bod y tân wedi cael ei gynnau'n ddamweiniol a llwyddodd diffoddwyr i reoli'r tân erbyn 20:30.