Damwain yng Ngwent: Dyn wedi marw
- Cyhoeddwyd
Mae dyn gafodd ei anafu mewn damwain ffordd ddifrifol ger Pont-y-pŵl ar nos Wener, 19 Rhagfyr, bellach wedi marw.
Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i'r A472 rhwng Pont-y-pŵl a Hafodyrynys oddeutu 11.10yh.
Roedd Seat Ibiza wedi taro dyn, gan achosi anafiadau difrifol.
Mae'r dyn wedi'i enwi fel Mark David Burgham, 38 oed o ardal Abertyleri.
Mae gyrrwr y car, dynes 26 oed o ardal Caerffili, wedi ei harestio ar amheuaeth o achosi anafiadau difrifol drwy yrru'n beryglus, ac mae hi wedi'i rhyddhau ar fechnïaeth, wrth i'r heddlu barhau gyda'u hymholiadau.
Gall unrhyw un â gwybodaeth ffonio 101 gan nodi'r cyfeirnod 553 19/12/2014.