Arestio dau yn dilyn marwolaeth dynes yn Aberteifi
- Published
Mae Heddlu Dyfed-Powys yn ymchwilio i farwolaeth dynes 57 oed.
Cafwyd hyd i'w chorff mewn tŷ yn ardal Pentop, Aberteifi ar ddydd Sul, 28 Rhagfyr.
Mae'r heddlu'n parhau i ymchwilio i achos y farwolaeth.
Mae dau ddyn o ardal Aberteifi wedi eu harestio ac maen nhw'n parhau yn y ddalfa.
Mae'r heddlu'n gofyn i unrhyw un gydag unrhyw wybodaeth alw gorsaf heddlu Aberteifi ar 101.