City Link: Hysbysiadau diswyddo

  • Cyhoeddwyd
Safle City Link yn Ffynnon Taf ger Caerdydd

Mae rhai o weithwyr City Link yng Nghymru wedi derbyn hysbysiadau diswyddo ddydd Llun.

Daw'r newyddion wedi i undeb yr RMT ddweud y bydd tua 80 o weithwyr y cwmni yng Nghymru yn cael eu diswyddo ar Nos Galan.

Dywedodd dirprwy ysgrifennydd yr undeb, Steve Hedley, mai dim ond 10 o bobl fydd yn parhau i gael eu cyflogi yn safleoedd y cwmni yn Ffynnon Taf, Abertawe a Gaerwen.

Yn ôl yr undeb bydd mwy na 2,000 o staff y cwmni yn cael eu diswyddo ledled y DU ar Nos Galan.

Cafodd y staff wybod ar ddydd Nadolig fod y cwmni wedi ei roi yn nwylo'r gweinyddwyr.

Mae gan City Link dair canolfan yng Nghymru, yn Ffynnon Taf (44 o weithwyr), Abertawe (30) a Gaerwen, Ynys Môn (16). Ar draws y DU, maen nhw'n cyflogi 2,727 o bobl.

Anfon gweithwyr adref

Ddydd Llun yn eu canolfan yng Ngaerwen cafwyd cyfarfod rhwng gweithwyr y cwmni a chynrychiolwyr y gweinyddwyr, EY. Derbyniodd y gweithwyr hysbysiadau diswyddo, gyda 14 o'r 16 yn cael eu hanfon adref.

Mae dau o'r gweithwyr yn parhau wrth eu gwaith ar hyn o bryd er mwyn delio â'r parseli sydd dros ben.

Roedd hanner dwsin o weithwyr wedi agor y ganolfan yn Abertawe, gan ddweud ei bod hi'n "ddistaw" yno, a'u bod yn disgwyl i'r ganolfan barhau ar agor tan 5 Ionawr.

Roedd tua chwech o is-gontractwyr tu allan i'r ganolfan, gyda rhai'n dweud nad oedden nhw wedi cael eu talu ers rhai misoedd.

Dywedodd perchennog chwech o faniau - Jamie White - bod "swm mawr iawn" yn ddyledus iddo, ond nad oedd am ddweud yr union swm.

Dywedodd bod ganddo chwech o yrwyr yn gweithio iddo, ac nad oedd yn gwybod beth fyddai'n digwydd yn y dyfodol.

'Colledion sylweddol'

Roedd cynrychiolwyr yr undeb wedi cynnal trafodaethau gyda'r gweinyddwyr EY ddydd Sadwrn.

Roedd EY wedi rhybuddio y byddai nifer sylweddol o ddiswyddiadau yn digwydd "dros y dyddiau nesaf."

Roedd City Link, sy'n berchen i gwmni buddsoddi Better Captial, wedi galw'r gweinyddwyr ar ôl blynyddoedd o "wneud colledion sylweddol".

Roedden nhw eisoes wedi rhoi'r gorau i dderbyn parseli gan gwsmeriaid yn eu pencadlys a'u prif ganolfannau dosbarthu, yn ogystal â'r 53 safle ar draws y DU.