Lerpwl 4-1 Abertawe
- Cyhoeddwyd

Gylfi Sigurdsson sgoriodd yr unig gôl i Abertawe yn Anfield nos Lun.
Lerpwl aeth ar y blaen yn ystod yr hanner cyntaf yn erbyn Abertawe nos Lun wrth i Alberto Moreno roi'r bêl yng nghefn rhwyd yr Elyrch.
Fe sicrhaodd Adam Lallana fod Lerpwl ddwy gôl ar y blaen ar ddechrau'r ail hanner, pan fethodd ymgais Lukas Fabianski i glirio'r bêl o hanner Abertawe.
Ofer oedd ymdrech Gylfi Sigurdsson o Abertawe i daro yn ôl, wrth i Lallana sgorio ei ail gôl gydag ergyd isel.
Fe aeth pethau o ddrwg i waeth i Abertawe pan beniodd Jonjo Shelvey'r bêl i mewn i'w gôl ei hun.