Heddlu'n dal i ymchwilio i farwolaeth menyw yn Aberteifi
- Cyhoeddwyd

Cafwyd hyd i gorff y fenyw mewn tŷ yn ardal Pentop, Aberteifi.
Mae Heddlu Dyfed-Powys yn dal i ymchwilio i farwolaeth menyw 57 oed.
Cafwyd hyd i'w chorff mewn tŷ yn ardal Pentop, Aberteifi, ddydd Sul, 28 Rhagfyr.
Mae archwiliad post-mortem yn cael ei gynnal.
Cafodd dau ddyn o ardal Aberteifi eu harestio ac maen nhw'n parhau yn y ddalfa.
Dylai unrhyw un â gwybodaeth ffonio Gorsaf Heddlu Aberteifi ar 101.