Heddlu'n dal i ymchwilio i lofruddiaeth
- Cyhoeddwyd
Mae'r heddlu'n dal i ymchwilio i lofruddiaeth wedi i Kyle Vaughan, 24 oed o Drecelyn, ddiflannu yn 2012.
Diflannodd y dyn o Sir Caerffili ar 30 Rhagfyr, 2012.
Dywedodd y Ditectif Brif Uwcharolygydd Peter Jones: "Rydyn ni'n ymroddedig yn llwyr i'r ymchwiliad ac eisiau gwybod yn bendant beth ddigwyddodd i Kyle y noson dan sylw."
Roedd ei gar, oedd wedi ei ddifrodi, wedi ei adael ar yr A467 rhwng Rhisga a Cross Keys a hyd yn hyn mae wyth rhwng 15 a 62 oed wedi cael eu harestio yn ystod yr ymchwiliad i'r llofruddiaeth.
Cafodd chwech eu harestio ar amheuaeth o droseddau, gan gynnwys gwyrdroi cwrs cyfiawnder a chynorthwyo troseddwr, ac maen nhw wedi eu rhyddhau'n ddigyhuddiad.
Ar fechnïaeth mae dau ddyn 25 a 27 oed o'r Coed Duon gafodd eu harestio ar amheuaeth o lofruddio.
Dywedodd y Ditectif Brif Uwcharolygydd Peter Jones: "Rydyn ni mewn cysylltiad yn aml gyda'r teulu ac yn meddwl amdanyn nhw ar yr adeg anodd hon."