Marwolaeth Aberteifi: Dim amgylchiadau amheus

  • Cyhoeddwyd
Tŷ yn ardal Pentop, Aberteifi.
Disgrifiad o’r llun,
Cafwyd hyd i gorff Janice Marjorie Holt, 57 oed, mewn tŷ yn ardal Pentop, Aberteifi.

Mae'r ymchwiliad i farwolaeth Janice Marjorie Holt, 57 oed, a ddarganfuwyd yn farw yn ei chartref yn ardal Pentop, Aberteifi, wedi dod i'r casgliad nad oes unrhyw amgylchiadau amheus ynglŷn â'i marwolaeth.

Mae dau ddyn cafodd eu harestio yn dilyn y farwolaeth wedi cael eu rhyddhau, a ni fydd unrhyw weithredu pellach yn eu herbyn.

Cafodd archwiliad post-mortem ei gynnal ddydd Mawrth a bydd crwner Ceredigion yn derbyn gwybodaeth ynglŷn â'r farwolaeth.