Adennill costau pontydd Hafren tan 2027?

  • Cyhoeddwyd
Pont Hafren

Mae Plaid Cymru wedi honni bod gwybodaeth wedi dod i law sy'n dangos y gallai Llywodraeth y DU adennill costau adeiladu pontydd Hafren.

Dywedodd llefarydd Plaid Cymru dros Drafnidiaeth yn San Steffan, Jonathan Edwards AS: "Tra bod y pontydd yn debyg o ddychwelyd i ddwylo cyhoeddus erbyn 2018, bydd gan y llywodraeth hawl o hyd i adennill eu costau. Mae'r hawl hwn yn para tan 2027.

"Oherwydd y tollau presennol fe gymerai flwyddyn neu ddwy i'r llywodraeth adennill eu costau ond maen nhw'n celu'r hyn y maen nhw am ei wneud.

"Rhaid i'r llywodraeth fod yn onest am eu cynlluniau wedi 2018 a dweud a ydyn nhw'n bwriadu parhau i godi tâl hyd at 2027 a thu hwnt."

Dywedodd Mr Edwards: "Byddai llywodraeth Plaid Cymru yn gostwng y tollau i ryw £2 (ar brisiau heddiw) i dalu am gynnal a chadw, costau staff ac argyfyngau.

"Fe fyddwn yn adolygu dileu'r tollau a byddai hyn'n dibynnu ar gostau."

Cyhoeddodd y Democratiaid Rhyddfrydol ym mis Awst y bydden nhw'n cael gwared ar y tollau'n gyfan gwbwl pe baen nhw'n rhan o'r llywodraeth wedi'r Etholiad Cyffredinol.

Adennill yn 2018

Mewn ymateb i gais Deddf Rhyddid Gwybodaeth Plaid Cymru dywedodd Asiantaeth Priffyrdd y DU: "Mae gan Severn River Crossing hawl i gasglu swm diffiniedig o'r tollau (£1,028.9m ar brisiau Gorffennaf 1989) ac y mae'r rhagolygon presennol yn awgrymu y bydd y swm hwn yn cael ei adennill yn 2018.

"Wedi hyn bydd y pontydd yn cael eu dychwelyd i'r Llywodraeth. Ni wnaed unrhyw benderfyniadau ynghylch dyfodol pontydd Hafren. O'r pwynt hwn ymlaen, mae gan y llywodraeth yr hawl i adennill eu costau eu hunain o adeiladu, cynnal a rheoli'r pontydd tan 2027. Byddai hyn am gostau sy'n dod y tu allan i gwmpas y consesiwn presennol, er enghraifft, costau a ddaeth i'w rhan am waith ar geblau wedi cyrydu.

"Ar sail parhad y trefniadau presennol, disgwylir y cymer rhyw hyd at ddwy flynedd i adennill yr arian hwn; fodd bynnag, mae union natur y drefn honno eto i'w phennu."

25 miliwn

Mae gyrwyr ceir yn talu £6.50 - cynnydd o 10c - gyda'r doll ar gyfer cerbydau nwyddau bychain a bysiau bychain yn cynyddu 30c i £13.10. Bydd gofyn i yrrwyr cerbydau nwyddau mawr a bysiau dalu £19.60, cynnydd o 40c.

Mae perchnogion y pontydd yn cynyddu'r tollau bob mis Ionawr yn unol â'r mynegai pris manwerthu.

Bob blwyddyn mae mwy na 25 miliwn o gerbydau'n defnyddio'r pontydd.

Mae'r tollau'n cael eu defnyddio i dalu am gost adeiladu'r ddwy bont.