Carchar am ddwy flynedd a phedwar mis am yrru'n beryglus

  • Cyhoeddwyd
Jonathan RobertsFfynhonnell y llun, Wales News Service
Disgrifiad o’r llun,
Cafodd Jonathan Roberts ei garcharu am ddwy flynedd a phedwar mis am yrru'n beryglus gan achosi anafiadau i'w gariad.

Mae dyn wedi'i garcharu am ddwy flynedd a phedwar mis am yrru'n beryglus gan achosi anafiadau i'w gariad.

Clywodd Llys y Goron Caerdydd bod y car oedd yn cael ei yrru gan Jonathan Roberts, 22 oed, wedi gwrthdaro â choeden ar gyflymder o 100 mya, gan achosi anafiadau difrifol i ben, asgwrn cefn ac asgwrn pelfig Laura Davies, 20 oed.

Digwyddodd y gwrthdrawiad ychydig cyn hanner nos ar 5 Mai eleni, ger y Coed Duon, wrth i Laura gychwyn ar swydd fel gyrrwr yn cludo bwyd o siop bwyd parod.

'Fel gyrrwr rali'

Roedd Roberts wedi symud i set y gyrrwr yng nghar Rover MG arian Laura wrth iddi ddanfon bwyd.

Clywodd y llys ei bod hi wedi dweud wrth Roberts am beidio â gyrru am nad oedd ganddo yswiriant, ond cychwynnodd yrru "fel gyrrwr rali", cyn taro yn erbyn y goeden.

Dywedodd y bargyfreithiwr ar ran yr erlyniad, Ian Kolvin, bod Roberts wedi cychwyn chwerthin pan ofynnodd Laura iddo pam ei fod yn gyrru mor gyflym.

Derbyniodd Laura anafiadau difrifol yn y gwrthdrawiad ac yn ôl Mr Kolvin "ni all bellach ddweud yr amser ac mae ei chydbwysedd a'i lleferydd hefyd wedi eu heffeithio."

'Chwerthin yn ei hwyneb'

Dywedodd David Webster, ar ran yr amddiffyniad, nad oedd gan Roberts "unrhyw esgus" am yr hyn ddigwyddodd.

Plediodd Roberts yn euog i gyhuddiad o achosi anafiadau difrifol drwy yrru'n beryglus.

Dywedodd y Barnwr Daniel Williams: "Gwnaethoch chi yrru'r car er gwaethaf ei rhybudd and oedd gennych chi yswiriant.

"Pan ddywedodd hi fod ganddi bryderon am eich gyrru, gwnaethoch chi chwerthin yn ei hwyneb."

Yn ogystal â chael ei ddedfrydu i garchar am ddwy flynedd a phedwar mis, bydd Roberts hefyd yn cael ei atal rhag gyrru am bum mlynedd.