Anafiadau yn dilyn gwrthdrawiad â lori sbwriel

Mae tri o bobl wedi cael eu hanafu yn dilyn gwrthdrawiad gyda lori sbwriel yn Sir Fynwy.

Gadawodd y lori'r ffordd a throi drosodd ar Millbrook Lane yn Llanfaches ger Caldicot tua 09:30 ddydd Gwener.

Roedd yn rhaid i griwiau tân dorri dau o bobl yn rhydd o'r cerbydau cyn iddyn nhw gael eu cludo i Ysbyty Brenhinol Gwent, Casnewydd i gael eu trin am fân anafiadau.

Dywedodd Gwasanaeth Ambiwlans Cymru bod trydydd person wedi cael ei drin yn y fan.