Hanes y glowyr ar gael i'r cyhoedd am y tro cynta
- Cyhoeddwyd

Bydd hanes Ffederasiwn Glowyr De Cymru ar gael i'r cyhoedd am fod arian ar gael i ddiogelu a digideiddio cofnodion bregus.
Archifau Richard Burton ym Mhrifysgol Abertawe sy' wedi derbyn £18,456 oddi wrth Lywodraeth Cymru drwy gyfrwng CyMAL: Archifau Amgueddfeydd a Llyfrgelloedd Cymru a'r Ymddiriedolaeth Cadwraeth Llawysgrifau Prydeinig.
Cafodd y ffederasiwn ei ffurfio yn 1898 ac mae'r cofnodion yn cyfeirio at y cyfnod hyd at 1934, gan gynnwys y Rhyfel Mawr, Streic Gyffredinol 1926 a dirwasgiad y tridegau.
'Pynciau amrywiol'
Dywedodd llefarydd ar ran y brifysgol: "Mae'r cofnodion yn bwysig o safbwynt cysylltiadau diwydiannol a'u heffaith ar hanes gwleidyddol, economaidd a chymdeithasol."
Mae archifydd y brifysgol Elisabeth Bennett wedi dweud: "Yr hyn sy'n gyffrous yw'r pynciau amrywiol mae'r cofnodion yn cyfeirio atyn nhw, o effaith y rhyfel ar lowyr i brotestiadau yn erbyn defnyddio llafur gorfodol yn y Transvaal.
"O'r diwedd bydd y cyhoedd yn gallu gweld y dogfennau pwysig hyn."
Dywedodd Wayne Thomas, Ysgrifennydd Cyffredinol Undeb y Glowyr: "Mae'r cofnodion yn arwyddocaol am eu bod yn dyddio o sefydlu'r ffederasiwn.
"Rydyn ni'n falch y bydd cadwraeth yn golygu y bydd y cyhoedd yn gallu deall mwy am ein hanes ni."