City Link: Ymdrechion i werthu'r cwmni'n methu

  • Cyhoeddwyd
City Link
Disgrifiad o’r llun,
Bydd 79 allan o 89 yn y tair canolfan yng Nghymru yn cael eu diswyddo

Mae gweinyddwyr ar ran cwmni dosbarthu City Link wedi cyhoeddi y pnawn 'ma fod ymdrechion i werthu'r cwmni wedi methu, gan olygu y bydd dros 2,300 yn colli eu swyddi .

Bydd 79 allan o 89 yn y tair canolfan yng Nghymru yn cael eu diswyddo, hynny yw 15 allan o 16 yn ardal Bangor, 39 allan o 43 yn ardal Caerdydd a 25 allan o 30 yn ardal Abertawe.

Mae'r cwmni'n cadw 370 o staff er mwyn delio â'r parseli sydd heb gael eu dosbarthu.

Eisoes mae cwmni Delsol, sydd â chanolfannau yng Nghaernarfon a Sir y Fflint, wedi cyflogi rheolwr o ganolfan City Link yng Ngaerwen ar Ynys Môn ac yn gobeithio siarad ag eraill oedd yn gweithio i City Link.