Cau wardiau ysbyty oherwydd achosion norofeirws
- Cyhoeddwyd

Mae dwy ward yn Ysbyty Maelor Wrecsam wedi bod ar gau ers dydd Mawrth oherwydd achosion norofeirws.
Mae disgwyl i un ward ail-agor ddydd Iau.
Dywedodd Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr nad oedd cynnydd sylweddol yn nifer achosion yn y ddau ysbyty mawr yn yr ardal - Ysbyty Gwynedd, Bangor, ac Ysbyty Glan Clwyd, Bodelwyddan.
Mae'r bwrdd yn atgoffa ymwelwyr i beidio â mynd i'r ysbyty os ydyn nhw wedi cael dolur rhydd neu daflu fyny o fewn y 48 awr ddiwethaf.
Dylai cleifion sydd i fod i fynd i'r ysbyty ond sy'n dangos symptomau norofeirwsgysylltu â gweithwyr meddygol er mwyn gwneud trefniadau ar eu cyfer.
Mae norofeirws yn hynod o heintus, gan achosi i bobl daflu fyny a chael dolur rhydd ond fel arfer nid yw'n afiechyd difrifol ac ni fydd yn parhau am fwy nac ychydig o ddiwrnodau.
Dywedodd Iechyd Cyhoeddus Cymru ei bod hi'n arferol i nifer achosion gynyddu'r adeg hon o'r flwyddyn.