Bar Cofi Roc a chlwb nos K2 yn cau y penwythnos hwn

  • Cyhoeddwyd
Clwb nos
Disgrifiad o’r llun,
Ers blynyddoedd mae nifer o fandiau Cymraeg, Cymreig a Saesneg wedi perfformio yno.

Mae bar Cofi Roc a chlwb nos K2 yng Nghaernarfon yn cau'r penwythnos hwn.

Dywedodd y perchnogion fod ffactorau fel gwahardd smygu a newid yr oriau trwyddedu wedi effeithio ar y diwydiant clwb nos.

"Mae 'na lai'n mynd allan, llai o gwsmeriaid a hyn yn golygu mwy o bwysa," meddai'r Cynghorydd Ioan Thomas, un o'r rhai adnewyddodd yr adeilad bron 20 mlynedd yn ôl a'i droi'n glwb nos y Paradox.

Newidiodd yr enw i K2 cyn i Cofi Roc, bar caffi, agor ar Y Maes.

Penderfynodd cyfranddalwyr geisio gwerthu'r busnes yn Awst ac maen nhw wedi penderfynu dirwyn popeth i ben "am resymau masnachol".

'Yn ffantastig'

Ers blynyddoedd mae nifer o fandiau Cymraeg, Cymreig a Saesneg wedi perfformio yno.

"Mae cefnogaeth pobl leol wedi bod yn ffantastig, yn enwedig cwsmeriaid y dydd," meddai Ioan.

"Ac mae 'na lawer o botensial yn yr adeilad a'r busnes ... ond mae angen rhywun ifanc, rhywun efo gweledigaeth newydd.

"Dyw hwn ddim yn gyfnod da ... mae'r diwydiant wedi mynd lawr ers 2000."