BBC Cymru Fyw

Ball yn arwyddo cytundeb deuol

Published
image copyrightHuw Evans agency
Mae clo y Scrlets Jake Ball wedi arwyddo cytundeb deuol gyda'r rhanbarth ac Undeb Rygbi Cymru.
Ef yw'r chweched chwaraewr i arwyddo cytundeb ddeuol
Y pump arall yw Sam Warburton, Dan Lydiate, Rhodri Jones, Hallam Amos a Tyler Morgan.
Mae gan Ball, 23 oed, wyth o gapiau rhyngwladol ar ôl gwneud ei ymddangosiad cyntaf ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad y llynedd.
Undeb Rygbi Cymru sy'n cyfrannau 40% ar gyfer y gronfa gwerth £3.3 miliwn sydd â'r nod o gadw chwaraewyr talentog yng Nghymru.
"Rwy'n falch o fod wedi arwyddo cytundeb deuol ac i fod yn aros yng Nghymru," meddai Ball.
Dywedodd Warren Gatland, hyfforddwr Cymru: "Mae sicrhau cytundeb deuol gyda Jake yn gam pwysig ar gyfer dyfodol y gem yng Nghymru.
"Fe wnaeth chwaraewr o safon Jake ddenu diddordeb gan glybiau y tu allan i Gymru, ond mae'r cytundebau deuol wedi sicrhau fod un arall o'n chwaraewyr rhyngwladol wedi ymrwymo i Gymru ac i'w ranbarth.