65,000 o yrwyr yn gyrru'n rhy gyflym mewn pedair blynedd
- Cyhoeddwyd

Yn 2013/14, cafodd 17,246 o yrwyr eu dal yn gyrru'n rhy gyflym.
Mae mwy na 65,000 o yrwyr wedi cael eu dal yn gyrru'n rhy gyflym yn ystod y pedair blynedd diwethaf yng nghanolbarth Cymru.
Mae ystadegau Heddlu Dyfed-Powys yn dangos bod 65,543 o yrwyr wedi cael eu dal yn gyrru'n rhy gyflym, a hynny gan gamerâu symudol, rhwng Ebrill 2010 a Mawrth 2014.
Yr A483 yn Llanwrtyd oedd y ffordd welodd y nifer fwyaf o yrwyr yn gyrru'n rhy gyflym, gyda 890 yn cael eu dal yn goryrru ar y ffordd honno.
Dywedodd llefarydd ar ran GanBwyll: "Mae gennym ni neges syml i yrrwyr - mae camerâu yn cael eu defnyddio er mwyn achub bywydau."
Dros y cyfnod o bedair blynedd, cafodd y nifer fwyaf o yrrwyr eu dal yn goryrru rhwng Ebrill 2010 a Mawrth 2011.
Yn 2013/14, cafodd 17,246 o yrrwyr eu dal yn gyrru'n rhy gyflym.