Caerdydd 3-1 Colchester
- Cyhoeddwyd

Buddugoliaeth i Gaerdydd yn erbyn Colchester yn Stadiwm Dinas Caerdydd, gan sicrhau eu lle ym mhedwaredd rownd y Cwpan FA.
Drwy gydol yr hanner cyntaf cafodd y ddau dîm sawl cyfle i ganfod cefn y rhwyd, ond wedi 34 munud Caerdydd aeth ar y blaen, diolch i gôl gan Joe Ralls.
Yn gynnar yn yr ail hanner dyblodd Caerdydd eu mantais wrth i Kadeem Harris sgorio i'r tîm cartref, cyn i Kenwyne Jones ganfod cefn y rhwyd wedi 60 munud i roi'r Adar Gleision 3-0 ar y blaen.
Sgoriodd Freddie Sears gôl gysur i Colchester wedi 74 munud, ond nid oedd buddugoliaeth Caerdydd dan fygythiad.
Er gwaethaf y ffaith mai dim ond 4,194 o gefnogwyr ddaeth i wylio'r gêm - y nifer isaf i ddod i Stadiwm Dinas Caerdydd ar gyfer gêm bêl-droed - bydd Caerdydd a'u rheolwr, Russell Slade, yn falch o'r canlyniad wrth i rediad y clwb o bum gêm heb fuddugoliaeth, ddod i ben.