Clwb pêl-droed yn cynnig cytundeb i Ched Evans

  • Cyhoeddwyd
Ched EvansFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae Ched Evans wedi cael cynnig cytundeb i chwarae pêl-droed gyda'r clwb Hibernians o Falta.

Fe gafodd Evans, 26 oed, ei ryddhau o'r carchar ym mis Hydref, wedi iddo dreulio hanner dedfryd o bum mlynedd dan glo am dreisio menyw mewn gwesty yn 2011.

Dywedodd dirprwy lywydd Hibernians, Stephen Vaughan: "Rydym ni'n chwilio am flaenwr o safon, ac rydym yn credu mai Ched yw'r chwaraewr hwnnw.

"Rydym ni wedi siarad gyda'i asiant gan gynnig cytundeb iddo tan ddiwedd y tymor."