Casnewydd 2-1 Caerliwelydd
- Published
image copyrightHuw Evans picture agency
Daeth Casnewydd yn ôl, o fod yn colli o un gôl i ddim i fod o fewn pwynt i'r gyrraedd safleoedd dyrchafiad cynghrair Dau, a hynny wrth i'r pwysau gynyddu ar Gaerliwelydd sydd ar waelod y gynghrair.
Rhoddodd Courtney Meppen-Walter yr ymwelwyr ar y blaen yn gynnar yn y gêm gyda pheniad o naw llath tu allan i'r gôl.
Fe lwyddodd Adam Chapman i unioni'r sgôr gyda chic o'r smotyn fel oedd y gêm yn cyrraedd yr hanner, pan aeth Ryan Jackson i lawr yn y cwrt cosbi.
Fe sicrhaodd Lee Minshull y fuddugoliaeth i Gasnewydd pan roddwyd y bêl yng nghefn y rhwyd ar ôl i ergyd gan Aaron O'Connor gael ei harbed.