Ffordd yn parhau ar gau yn dilyn tân mewn bwyty Indiaidd

  • Cyhoeddwyd
tan y fenniFfynhonnell y llun, Kevin Heath
Disgrifiad o’r llun,
Roedd yn rhaid i ddiffoddwyr atal y tân rhag lledaenu i adeiladau cyfagos.

Mae un o'r prif ffyrdd drwy'r Fenni yn parhau i fod ar gau fwy na 24 awr ar ôl i dân "difrifol" ddinistrio bwyty Indiaidd.

Cafodd dau o bobl eu cludo i'r ysbyty yn dilyn y tân yn y Sundarbon Bengal Cuisine yn ystod oriau mân fore Sadwrn.

Cafodd ffordd yr A40, Heol y Mynaich ei chau i'r ddau gyfeiriad rhwng Heol y Castell Isaf a Heol y Llew oherwydd y tân.

Mae'r ffordd yn parhau i fod ar gau ddydd Sul oherwydd pryderon fod yr adeilad yn anniogel.

Nid oes gwybodaeth ynglŷn â pha bryd bydd y ffordd yn ailagor.

Ar un adeg, roedd wyth injan dân yn bresennol, ac roedd yn rhaid symud pobl o ardaloedd cyfagos wrth iddynt frwydro i atal y tân rhag lledaenu.

Mae'r Heddlu a'r gwasanaeth tân yn parhau i ymchwilio i achos y tân.