Stoke 3-1 Wrecsam
- Cyhoeddwyd

Fe ildiodd Wrecsam eu mantais yn ail-hanner y gêm yn erbyn Dinas Stoke yn nhrydedd rownd Cwpan FA Lloegr ddydd Sul.
Fe lwyddodd y tîm o'r Gyngres, ac sydd 97 o safleoedd yn is na'r tîm cartref yn y pyramid pêl-droed, i ddod ar y blaen ar ôl 73 munud, yn dilyn peniad gan Mark Carrington.
Ond fe darodd Marko Arnautovic y bêl i gefn rhwyd Wrecsam yn fuan wedyn i unioni'r sgôr, cyn i Stephen Ireland chwalu gobeithion y tîm o ogledd Cymru, drwy sgorio ddwywaith.
Gan fod Stoke yn eistedd yn gyfforddus yn yr unfed safle ar ddeg yn yr Uwch Gynghrair, maent mewn sefyllfa dda i dargedu rhediad da yn y cwpan.
Ffynhonnell y llun, Getty Images
Daeth tua 5,000 o bobl i gefnogi Wrecsam ddydd Sul.