Delweddau anweddus: Menyw yn y llys
- Published
Mae achos llys menyw sydd wedi ei chyhuddo o annog y canwr roc, Ian Watkins i ddosbarthu delweddau anweddus o blant, wedi dechrau.
Mae Joanne Mjadzelics, 39, yn gwadu pedwar cyhuddiad o fod â delweddau yn ei meddiant, dau o ddosbarthu ac un o annog a helpu i ddosbarthu llun anweddus o blentyn.
Roedd hi mewn perthynas â chyn brif leisydd Lostprophets - sydd wedi ei ddedfrydu i 35 mlynedd dan glo am droseddau rhyw yn erbyn plant.
Fe gafodd Ms Mjadzelics ei harestio wedi i Watkins bledio'n euog i'r cyhuddiadau yn ei erbyn.
Mae'r fenyw o Doncaster yn honni iddi ofyn i'r canwr anfon delweddau anweddus ati hi, er mwyn casglu tystiolaeth yn ei erbyn, a "sicrhau cyfiawnder".
Mae disgwyl i'r achos bara am wythnos.