Angel hoyw ar fferm laeth
- Cyhoeddwyd

Wedi pymtheg mlynedd fel awdur dramâu teledu a llwyfan, fe siaradodd y 'sgwennwr Roger Williams gyda BBC Cymru Fyw am ei brofiad o fentro i fyd y ffilm am y tro cyntaf.
Angel yn glanio ar fferm laeth yng ngorllewin Cymru. Dyna ddechreuad ffilm 'Maldod' gan Roger Williams a'r cyfarwyddwr Lee Haven Jones. Merch ifanc o'r enw Mali sy'n ei ddarganfod cyn ei gymryd adref at ei mam, Carys. Al yw'r Angel. Dyn hoyw sydd wedi gadael ei fywyd yn y ddinas wedi marwolaeth annisgwyl ei bartner.
Triawd unigryw, felly, yn ganolog i'r ffilm. Dyma ffurfio uned anghonfensiynol ar yr wyneb, ond un sy', yn ôl Roger, yn rhannu gwerthoedd sy'n gyffredin i bob un ohonon ni.
'Colli cyfle yng Nghymru'
Mae'r syniad o genhadu i gynulleidfa newydd yn ganolog i'r prosiect yma, meddai Roger.
"Dwi wastad wedi teimlo ein bod ni'n colli cyfle yma yng Nghymru, dydyn ni ddim ar y cyfryw yn neud ffilmie sinema yn y Gymraeg. Ma 'na ambell un, ond dyw e ddim yn rhywbeth sy'n digwydd yn rheolaidd. Dwi'n meddwl bod e'n bwysig i ni fel cenedl gael ein cynrychioli ar y sgrin fawr a bod ein ffilmiau ni yn cael eu gweld yn rhyngwladol."
Dywedodd Roger ei fod e a Lee Haven Jones yn awchu i gyrraedd cynulleidfa ehangach: "Mae'r sialens o fynd â'r ffilm yn Gymraeg i'r farchnad ryngwladol yn rhywbeth sy'n apelio'n fawr iawn i ni. A dwi 'di arfer mynd i weld ffilmiau yn Ffrangeg, Eidaleg. Dwi 'di arfer gwylio rhai gydag isdeitlau. Dwi ddim yn gweld hynny'n broblem. "
Dylanwad 'Rhosyn a Rith'
Wrth sôn am ei ysbrydoliaeth, dyma Roger yn disgrifio'i brofiad yn blentyn unarddeg oed yn mynd i weld ffilm Rhosyn a Rhith gyda Iola Gregory a Dafydd Hywel yn y sinema leol yng Nghaerfyrddin.
"Dyna oedd y tro cyntaf i fi weld y ffilm yn y Gymraeg yn y sinema, a n'ath hwnna argraff aruthrol arna'i.
"Ma' ffilmiau eraill yn rhoi ysbrydoliaeth yn y gwaith o ysgrifennu - o'n i 'di gweld Little Miss Sunshine' na'th fy sbarduno i fynd ati a dechre rhoi'r gwaith ar bapur. Dyw e ddim yn ffilm gul."
Fe sylweddolodd y ddau yn gynnar, medd Roger, fod 'na botensial i'r stori eistedd yn y genre queer cinema.
"Ma 'na farchnad fawr am y math 'na o ffilm yn rhyngwladol gyda dros ddau gant o wyliau ffilm hoyw ar draws y byd. Ma' 'na sawl cwmni sy'n dosbarthu'r math 'na o ffilmiau ac o'n i'n gallu gweld yn syth sut alle'r ffilm gael bywyd tu allan i Gymru.
"Ffilm hoyw eitha aeddfed yw hon. Dyw hi ddim yn ffilm am ryw. Dyma ddyn hoyw sy' 'di cyrraedd ei dridegau ac yn troi'n dad i ferch fach. Ma' 'na lot o apêl yn y ffilm i bobl sy' ddim yn hoyw neu sy' ddim wedi gweld ffilm hoyw o'r blaen. Dyw hi ddim yn gul o ran be' mae'n weud.
"Dwi'n meddwl bod eisiau cynrychioli pob elfen o'n cymdeithas ni yn yr iaith. Mae diddordeb 'di bod 'da fi mewn straeon gwledig ers tipyn.
"Dwi'n meddwl achos 'mod i o Gaerfyrddin a nhad yn brifathro mewn ysgol yn y wlad, mae diddordeb 'da fi yn y byd 'na. 'Dwi hefyd yn meddwl bod y byd ddim yn cael ei gynrychioli ddigon mewn drama neu ffuglen.
"Beth oedd yn apelio oedd y syniad o dri pherson oedd ar goll, tri gwahanol iawn iawn. Merch, dyn hoyw o'r ddinas a gwraig fferm yn darganfod yr hyn sy' gyda nhw'n gyffredin."
Cefnogaeth o Fangor i Bermuda
Bu'r ymgyrch ariannu hefyd yn un anghonfensiynol. Fe ddefnyddiodd y ddau wefan ariannu torfol i godi peth o'r arian. Dyma alw ar bobl i gyfrannu i'r gost gychwynnol. Bellach mae dros 160 o bobl wedi rhoi arian gan gyfrannu dros bum mil o bunnoedd. Rhai o America, o Bermuda yn ogystal ag adre yng Nghymru.
Arbrawf oedd hyn, medd Roger, ond ffordd hefyd o feithrin cynulleidfa ar gyfer y ffilm.
"Pan ddaw y ffilm allan, mi fydd 'na gynulleidfa yma yng Nghymru a thu hwnt yn aros amdano fe. 'Naethon ni lwyddo i godi'r arian oedden ni'n gobeithio'i godi."
Fe ychwanegodd y cyfarwyddwr, Lee Haven Jones, taw'r bwriad yw sicrhau fod hon yn ffilm sy'n teithio. Gydag arfordir Ceredigion yn gefndir, eu gobaith yw cenhadu stori hoyw i gynulleidfa eang, drwy gyfrwng y Gymraeg mewn sinemâu ar draws y byd.
Y bwriad ydi ffilmio dros yr haf gyda'r gobaith y bydd hi i'w gweld ar y sgrin fawr yn 2016.