Dyfodol i'r Iaith yn penodi prif weithredwr

Dyfodol
Image caption Sefydlwyd y mudiad yn ystod haf 2012

Mae mudiad Dyfodol i'r Iaith wedi penodi ei brif weithredwr cyntaf.

Mae Ruth Richards, o Fiwmares, yn gyn swyddog lobio gyda'r mudiad.

Bu Ms Richards yn swyddog ym maes cydraddoldeb, yr iaith Gymraeg a pholisi cymdeithasol gan weithio ym maes llywodraeth leol.

Mae hefyd wedi gweithio yn y maes gwrth dlodi a bu hefyd yn ymchwilydd gwleidyddol yn San Steffan yn y 90au. .

Dywedodd cadeirydd Dyfodol i'r Iaith, Heini Gruffudd, fod y mudiad a gafodd ei sefydlu yn 2012 bellach wedi sefydlogi a bod angen gweithredu mewn modd mwy strategol.

"Fe fydd hi'n cynnig elfen gref o gydlynu.

"Fel mudiad 'rydym wedi bod yn ymateb i lu o ymholiadau gan y cyhoedd, a hefyd yn cyflwyno tystiolaeth i lywodraeth Cymru a chynghorau lleol.

"Ond hefyd fel grŵp mae angen i ni lunio polisi, polisi iaith ar gyfer Cymru a hynny erbyn yr Eisteddfod Genedlaethol.

"Wedyn, bydd angen rhoi pwysau a dylanwadau ar y pleidiau gwleidyddol cyn yr etholiadau cynulliad yn 2016. "

Dywedodd Mr Gruffudd fod gan y mudiad rhwng 200 a 250 o aelodau.

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.