Ymdrech ryngwladol i ddod o hyd i Sammy Almahri

  • Cyhoeddwyd
Nadine Aburas and Sammy AlmahriFfynhonnell y llun, South Wales Police
Disgrifiad o’r llun,
Nadine Aburas a Sammy Almahri

Mae'r ymdrech ryngwladol i ddod o hyd i ddyn mewn cysylltiad â llofruddiaeth Nadine Aburas yng Nghaerdydd yn parhau, yn dilyn apêl emosiynol gan ei mam.

Cafwyd hyd i gorff y ddynes 28 oed yng ngwesty'r Future Inn ym Mae Caerdydd ar 31 Rhagfyr.

Mae Heddlu De Cymru yn awyddus i holi Sammy Almahri, 44, o ddinas Efrog Newydd.

Mae ditectifs yn credu iddo hedfan o'r Unol Daleithiau cyn y Nadolig i gwrdd â Nadine, a'i fod wedyn wedi hedfan i Tanzania.

Ffynhonnell y llun, Wales News Service
Disgrifiad o’r llun,
Andrea Aburas yn y gynhadledd i'r wasg ddydd Llun

Apêl mam

Mewn cynhadledd i'r wasg ddydd Llun, dywedodd mam Nadine, Andrea Aburas, fod ei chalon wedi ei "rhwygo'n ddwy."

"Nadine oedd fy mhlentyn, roedd hi yn eneth mor brydferth a charedig. Fyddai hi byth yn brifo unrhyw un, roedd hi ond am helpu pobl.

"Roedd hi wastad yn rhoi eraill yn gyntaf. Mae colli Nadine wedi rhwygo fy nghanol yn ddwy."

Yn ôl yr heddlu, roedd y pâr yn adnabod ei gilydd ers tair blynedd ac wedi cwrdd cyn hyn yn Efrog Newydd.

Ar 30 Rhagfyr roedd y ddau wedi cofrestru yn y Future Inn ym Mae Caerdydd o fewn 30 munud i'w gilydd.

Roedd y ddau wedi gadael ychydig cyn 22:00 ac wedi dychwelyd awr yn ddiweddarach.

Bum awr yn ddiweddarach, am 03:00 ar 31 Rhagfyr, fe wnaeth Mr Almahri adael y gwesty a chredir iddo fynd ar awyren o Heathrow i Doha, Qatar, am 10:00, ac yna ymlaen i Tanzania.

Yn ystod y gynhadledd i'r wasg, fe wnaeth Ms Aburas erfyn ar Mr Almahri i ildio i'r awdurdodau "plîs helpwch ni i ddod o hyd i atebion er mwyn i ni allu gadael i Nadine orwedd mewn hedd."

"Fe wnaethoch chi ddweud wrthym eich bod yn caru Nadine, os yw hynny'n wir, plîs gadewch i'r heddlu eich helpu."

Ffynhonnell y llun, Wales News Service