Grant £1.2m i adfer gerddi Palas yr Esgob yn Abergwili
- Cyhoeddwyd

Mae Cronfa Dreftadaeth y Loteri wedi cyhoeddi fod grant o £1,264,800 wedi ei roi i adnewyddu gerddi Palas yr Esgob yn Abergwili, Sir Gaerfyrddin. Mae'r gerddi yn sefyll ar safle Amgueddfa Sir Caerfyrddin, sydd wedi ei leoli yn adeilad hanesyddol Palas yr Esgob.
Roedd yr adeilad unwaith yn balas ar gyfer esgobion Tŷ Ddewi, a dyma ble cyfieithwyd y Testament newydd i'r Gymraeg am y tro cyntaf yn 1567.
Mae saith gardd gyhoeddus drwy Brydain yn elwa o arian gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri a'r Gronfa Loteri Fawr. Y bwriad ydi adnewyddu hen erddi a pharciau cyhoeddus gyda dros £20m o nawdd.
Daw'r cyhoeddiad chwe mis ar ôl cyhoeddi adroddiad ar gyflwr gerddi a pharciau cyhoeddus gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri. Yn ôl yr adroddiad, mae gerddi cyhoeddus yn wynebu dyfodol ansicr, er eu poblogrwydd gydag aelodau'r cyhoedd.
Dywedodd Carole Souter, prif weithredwraig Cronfa Dreftadaeth y Loteri: ''Bydd y buddsoddiad heddiw yn gymorth i adnewyddu'r parciau hanesyddol hyn, gan sicrhau fod pobl leol yn gallu ymweld â gofodau gwyrdd o safon uchaf, a hefyd fe fydd yn dod a nifer o gynlluniau cyffrous yn fyw wrth ddefnyddio parciau ar gyfer digwyddiadau gwahanol yn y dyfodol.