Ffynnon Sant Dyfnog i gael ei hadfer

  • Cyhoeddwyd
Ffynnon Sant DyfnogFfynhonnell y llun, Gareth Hughes
Disgrifiad o’r llun,
Y gred oedd bod dŵr y ffynnon yn medru trin arthritis, cwynion croen a hyd yn oed byddardod

Mae ffynnon yn Sir Ddinbych sy'n dyddio o'r chweched ganrif yn cael ei hadfer yn ganolbwynt i atyniad ymwelwyr crefyddol.

Mae ffynnon Sant Dyfnog yn Llanrhaeadr, ger Dinbych, wedi denu miloedd o bererinion dros y blynyddoedd.

Y gred oedd bod dŵr y ffynnon yn medru trin arthritis, cwynion croen a hyd yn oed byddardod.

Un o'r seintiau Celtaidd oedd Sant Dyfnog, a ddaeth i fyw yn Llanrhaeadr yn y chweched ganrif. Ef yw nawddsant eglwys y pentref.

Yn ddiweddar mae cyflwr y ffynnon a'r coetir o'i hamgylch wedi dirywio, gyda llwybrau troed drwy'r goedwig yn llithrig a blêr.

Atyniad gwerth £300,000

Ffynhonnell y llun, Gareth Hughes
Disgrifiad o’r llun,
Mae ffynnon Sant Dyfnog wedi denu miloedd o bererinion dros y blynyddoedd

Cafodd y syniad o adfer y ffynnon ei drafod mewn cyfarfod cyhoeddus dair blynedd yn ôl yn edrych ar ffyrdd o wella'r ardal leol.

"Ar y dechrau roeddan ni'n canolbwyntio ar warchod y ffynnon rhag dirywio ymhellach ond yna dechreuon ni ystyried yr amgylchedd, treftadaeth ac agweddau diwylliannol," meddai Ann Bitcon, ysgrifennydd Cymdeithas Cadwraeth Llanrhaeadr.

Mae'r grŵp bellach yn bwriadu creu atyniad gwerth £300,000 i dwristiaid crefyddol, fydd yn cynnwys canolfan amgylcheddol a chyfleuster addysg.

Mae wedi derbyn cyllid gan asiantaeth fenter wledig Cadwyn Clwyd, ynghyd â grant cychwynnol o £24,800 oddi wrth Gronfa Dreftadaeth y Loteri ar gyfer gwaith ymchwil.

"Y bwriad yw cyflogi rheolwr prosiect rhan-amser am dair blynedd, i ddechrau goruchwylio'r gwaith ond wedyn i ddatblygu agweddau treftadaeth, diwylliannol ac addysgol y ffynnon," meddai Ms Bitcon.

"Mae'n brosiect cymunedol go iawn a bydd y gwirfoddolwyr yn chwarae rhan allweddol wrth ymchwilio, tywys ymwelwyr a gwneud gwaith ymarferol."

Mae'r grŵp yn apelio ar i unrhyw un sydd â ffotograffau, llyfrau neu wybodaeth am y ffynnon i gysylltu gyda nhw er mwyn helpu'r aelodau i lunio hanes cynhwysfawr.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol