Llosgydd: Cyfle i'r cyhoedd ddweud eu dweud
- Cyhoeddwyd

Bydd y cyhoedd yn cael cyfle i ddweud eu dweud ynglŷn â chynlluniau i adeiladu llosgydd fydd yn llosgi cannoedd o filoedd o dunnelli o wastraff bob blwyddyn.
Y bwriad yw y bydd y llosgydd, ger Cei Connah, Glannau Dyfrdwy yn creu digon o ynni i bweru 30,000 o gartrefi.
Ond cyn i'r cynllun dderbyn ei drwydded, mae Cyfoeth Naturiol Cymru eisiau archwilio unrhyw effeithiau posib, gan glywed barn trigolion a mudiadau iechyd.
Bydd sesiwn galw heibio yn cael ei chynnal ddydd Mercher.
Mae'r cwmni Wheelabrator o'r Unol Daleithiau wedi dweud y byddai'r llosgydd ym Mharc Adfer yn prosesu hyd at 200,00 o dunnelli o wastraff bob blwyddyn, byddai'r gwastraff hwnnw yn cael ei gasglu gan bump o gynghorau o ar draws gogledd Cymru.
Pe bai'r cynllun yn mynd yn ei flaen, gallai'r gwaith adeiladu ar Barc Diwydiannol Glannau Dyfrdwy gychwyn yn hwyrach eleni, a gallai'r llosgydd fod yn weithredol erbyn 2018.
Effaith bosib ar iechyd y cyhoedd
Pedair blynedd yn ôl fe ddywedodd Iechyd Cyhoeddus Cymru y gallai fod peth effeithiau andwyol o losgyddion - ond bod hynny "mor fychan fel y byddai'n anodd i'w fesur".
Dydd Mercher mi fydd 'na gyfle i bobl yn Sir y Fflint a thu hwnt, i gwrdd â chynrychiolwyr Cyfoeth Naturiol Cymru er mwyn deall mwy am effaith y llosgydd ar yr amgylchedd ac ar iechyd.
Dywedodd Sian Williams, Pennaeth Gweithrediadau Cyfoeth Naturiol Cymru yng Ngogledd Cymru: "Bydd y cynllun yn derbyn trwydded dim ond os ydym ni wedi ein bodloni y gall y llosgydd weithredu heb niweidio'r amgylchedd neu iechyd y cyhoedd."
Ailgylchu 70% o wastraff
Ymhen deng mlynedd mae disgwyl i bob awdurdod lleol yng Nghymru ailgylchu 70% o'i gwastraff.
Llynedd roedd 55% o wastraff yn Sir y Fflint yn cael ei ailgylchu.
Bydd y sesiwn galw heibio yn cael ei chynnal yng Nghanolfan Hamdden Glannau Dyfrdwy rhwng 13:00-20:00. Bydd gan y cyhoedd fis i wneud sylwadau ynglŷn â'r cynllun.
Ar ddiwedd yn ymgynghoriad fe fydd Cyfoeth Naturiol Cymru yn penderfynu os oes modd caniatau trwydded amgylcheddol i gwmni Wheelabrator.
Y cam nesaf wedyn fydd i Gyngor Sir y Fflint graffu ar gais cynllunio'r cwmni cyn penderfynu caniatau cytundeb i adeiladu llosgydd ar y safle.
Straeon perthnasol
- 19 Mai 2014
- 14 Ebrill 2014