Llofruddiaeth Caerdydd: Heddlu Tanzania yn ymchwilio

  • Cyhoeddwyd
Nadine Aburas a Sammy AlmahriFfynhonnell y llun, South Wales Police
Disgrifiad o’r llun,
Nadine Aburas a Sammy Almahri

Mae heddlu yn Tanzania yn dweud eu bod nhw'n chwilio am ddyn mewn cysylltiad â llofruddiaeth Nadine Aburas yng Nghaerdydd.

Cafwyd hyd i gorff y ddynes 28 oed yng ngwesty'r Future Inn ym Mae Caerdydd ar 31 Rhagfyr.

Mae Heddlu De Cymru yn awyddus i holi Sammy Almahri, 44, o ddinas Efrog Newydd.

Mae ditectifs yn credu iddo hedfan o'r Unol Daleithiau cyn y Nadolig i gwrdd â Nadine, a'i fod wedyn wedi hedfan i Tanzania.

Dywedodd Diwani Athumani, o heddlu Tanzania yn nwyrain Affrica, eu bod yn gweithredu o ganlyniad i wybodaeth maen nhw wedi'i dderbyn.

Dywedodd Mr Athumani, cyfarwyddwr gweithredol ymchwiliadau troseddol, wrth BBC Cymru: "Mae gennym ni wybodaeth amdano.

"Beth rydyn ni'n gwneud ar hyn o bryd yw gweithredu yn unol â'r wybodaeth honno. Rydym ar ddeall ei fod yn Tanzania, a gall fod yn unrhyw ran o'r wlad. Ond am resymau diogelwch, a rhesymau yn ymwneud â'r ymchwiliad, ni allwn ni ddweud llawer mwy na hynny."

Dywedodd Mr Athumani ei fod hefyd yn rhybuddio pobl yn y wlad ynglŷn â Sammy Almahri.

Mewn cynhadledd i'r wasg ddydd Llun, fe wnaeth mam Nadine, Andrea Aburas, wneud apêl emosiynol i Mr Almahri ildio ei hun i'r awdurdodau.

"Nadine oedd fy mhlentyn, roedd hi yn eneth mor brydferth a charedig. Fyddai hi byth yn brifo unrhyw un, roedd hi ond am helpu pobl.

"Fe wnaethoch ddweud wrthym eich bod yn caru Nadine - os yw hynny'n wir yna plîs gadewch i'r heddlu eich helpu."