Ymestyn cynllun 'Esgyn' i'r di-waith
- Cyhoeddwyd

Bydd dros £1 miliwn yn cael ei wario ar ehangu cynllun 'Esgyn' Llywodraeth Cymru. Mae'r cynllun yn rhoi cymorth i bobl ifanc sy'n dod o gartrefi lle nad oes neb yn ennill cyflog, i ddarganfod gwaith.
Cafodd cynllun Esgyn ei lansio fis Mawrth y llynedd, pan gafodd ei gyflwyno mewn chwe ardal ar gyfer cyfnod prawf.
Mae'r Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi, Lesley Griffiths, wedi cyhoeddi y bydd £1,063,271 ar gael er mwyn galluogi i'r cynllun barhau tan fis Mawrth 2016, gan hefyd ehangu'r ardal lle mae'r cynllun yn weithredol.
Nod y rhaglen yw darparu 5,000 o gyfleoedd hyfforddiant a chyflogaeth erbyn 2017 i gartrefi lle nad oes unrhyw un mewn gwaith.
"Carreg filltir"
Dywedodd Lesley Griffiths AC:
"Heddiw rydym yn cyrraedd carreg filltir anferth - 1,000 o gyfleoedd hyfforddiant a chyflogaeth i bobl o gartrefi di-waith yng Nghymru.
"Rydym yn falch o'r llwyddiant sylweddol hwn wrth gwrs, ond ddylen ni ddim gorffwys ar ein rhwyfau chwaith.
"Mae'n dda iawn gen i gyhoeddi £1 miliwn arall er mwyn i'r rhaglen hon barhau.
"Bydd modd dal ati nawr i adeiladu ar y llwyddiant hwn a sicrhau bod hyd yn oed mwy o bobl yn gallu cael cymorth un-i-un gan Esgyn.
"Rydym yn gwybod mai cyflogaeth yw'r ffordd orau allan o dlodi gan ei bod yn galluogi pobl i fyw bywydau sefydlog a boddhaus,'' meddai.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd24 Mawrth 2014