Cystadlaethau newydd i'r Eisteddfod
- Published
Mae Eisteddfod yr Urdd wedi cyhoeddi rhestr newydd o gystadlaethau galwedigaethol cyfoes yn dilyn cydweithio â Cholegau Cymru.
Gobaith y sefydliad yw y bydd y cystadlaethau cyfoes yn denu cynulleidfa newydd i gystadlu ac yn helpu sicrhau bod y Gymraeg yn iaith gyfoes a pherthnasol i fywyd pobl ifanc o bob cefndir.
Cyflwynir chwe chystadleuaeth newydd yn Eisteddfod yr Urdd Caerffili a'r Cylch 2015 sy'n agored i unigolion dan 25 oed.
Y categorïau newydd fydd adeiladwaith, dylunio, ffasiwn, gofal plant, cogurdd a thrin gwallt a harddwch.
'Cryfhau'r cyswllt'
Dywedodd Aled Siôn, Cyfarwyddwr Eisteddfod yr Urdd: "Mae'r cystadlaethau hyn wedi eu hychwanegu at yr ystod arferol yn dilyn ymgynghoriad gan weithgor annibynnol o'r Eisteddfod.
"Roeddem yn awyddus i ehangu'r math o gystadlaethau oedd yn cael eu cynnig, a thrwy gydweithio gyda Cholegau Cymru, ein gobaith yw cryfhau ein cyswllt â phobl ifanc o bob cefndir gan gynnig arbenigedd 15 coleg a sefydliad addysg bellach i aelodau'r Urdd.
"Rydym yn ffyddiog y bydd cryn ddiddordeb yn y cystadlaethau hyn."
Dywedodd Claire Roberts, Cyfarwyddwr Dwyieithog Colegau Cymru:
"Mae addysg cyfrwng Cymraeg a dwyieithog wedi gweld cynnydd cyson yn y colegau addysg bellach dros y blynyddoedd diwethaf, ond er mwyn codi hyder a meithrin teimlad o berchnogaeth a pherthnasedd mae'n holl bwysig atgyfnerthu'r dysgu y tu allan i'r ystafell ddosbarth neu'r gweithle.
"Dwi'n hynod o falch gan hynny bod yr Urdd wedi bod yn barod iawn i gydweithio â Cholegau Cymru i gynnig cyfle newydd i bobl ifanc sydd â sgiliau galwedigaethol ar draws ystod o feysydd i fedru cystadlu yn yr Eisteddfod ac agor y drws iddynt i fywyd a bwrlwm yr Eisteddfod."
Straeon perthnasol
- Published
- 4 Hydref 2014
- Published
- 30 Mai 2014