Carchar wedi i dân ddatgelu ffatri ganabis yn Sir y Fflint

  • Cyhoeddwyd

Clywodd llys bod diffoddwyr tân gafodd eu galw i dân mewn tŷ yn Sir y Fflint wedi darganfod fferm ganabis a fyddai'n gallu cynhyrchu "symiau anferth" o'r cyffur.

Cafodd planhigion a fyddai'n gallu cynhyrchu canabis gwerth £27,000-£80,000 eu darganfod mewn tŷ yn Nhrelawnyd ym mis Ionawr.

Cafodd Ian Anderson, 24 oed o Lerpwl, ei garcharu am 16 mis wedi iddo gyfaddef tyfu canabis a defnyddio trydan yn anghyfreithlon.

Clywodd Llys y Goron Yr Wyddgrug bod y tân wedi cael ei achosi gan nam trydanol.

Clywodd y llys bod Anderson wedi cytuno i ofalu am y planhigion fel ffordd o ad-dalu dyled cyffuriau o £5,000 ac nad oedd ganddo unrhyw ddylanwad dros y rheiny oedd yn rheoli'r fenter.

Dywedodd y Barnwr Niclas Parry bod gan y fenter yr holl arwyddion o fod yn fenter broffesiynol, a thra bod Anderson yn arddwr, yn hytrach na threfnydd, roedd hon yn parhau'n rôl bwysig.