Galw i reoleiddio pobl trin gwallt

Trin gwallt Image copyright BBC, Thinkstock
Image caption Mae Nia Griffith AS eisiau gweld cofrestr gwladol i drinwyr gwallt

Mae AS dros Lanelli, Nia Griffith, wedi galw am reoleiddio gorfodol i bobl sydd yn trin gwallt i amddiffyn y cyhoedd rhag masnachwyr "diegwyddor" ac "anghymwys".

Disgwylir i'r aelod seneddol godi'r mater mewn dadl seneddol ddydd Mercher.

Dywedodd Ms Griffith ei bod wedi synnu nad oes rhaid i bobl sydd yn trin gwallt gael unrhyw gymwysterau.

Ar hyn o bryd, mae hi'n wirfoddol i berthyn i gofrestr trin gwallt cymwys y DU.

Dywedodd Ms Griffith:

"Wrth gwrs, mae gan y rhan fwyaf o drinwyr gwallt gymwysterau priodol, yn gweithio i safon uchel ac yn cymryd gofal da o'u cwsmeriaid.

"Er hynny, ar hyn o bryd, does dim i amddiffyn cwsmeriaid rhag masnachwyr diegwyddor neu anghymwys."

Dywedodd Sally Styles o'r Cyngor Gwallt y byddai cofrestriad gorfodol yn gyfle i gynnal hyder y cyhoedd.

Ei chred hi yw y byddai cofrestr wladol yn codi statws yr alwedigaeth i'r un lefel a gyrwyr tacsis a phlymwyr, yn ogystal â phobl sydd yn trin gwallt yn rhyngwladol.