Annog Cyngor Caerdydd i werthu eiddo
- Cyhoeddwyd

Dylai'r cyngor ddal ei afael ar y farchnad ganolog, yn ôl y cwmni ymgynghori.
Mae awdurdod lleol mwyaf Cymru yn cael ei gynghori i werthu nifer o eiddo.
Fe ofynnodd Cyngor Caerdydd i gwmni ymgynghori adolygu 561 o'i adeiladau.
Maen nhw'n cynnwys siopau, tafarndai, clybiau, gwestai a gweithdai diwydiannol.
Yn ôl Jones Lang LaSalle, dylai'r cyngor werthu 261 ohonyn nhw - gan ganolbwyntio ar siopau mewn ardaloedd maestrefol a gweithdai diwydiannol.
Ond mae'r cwmni'n argymell y dylai'r cyngor ddal ei afael ar adeiladau masnachol - megis Marks & Spencer, Boots a Tesco - a Marchnad Ganolog y brifddinas.
Mae disgwyl y byddai gwerthu'r eiddo yn codi hyd at £10 miliwn.
Fe fydd y cynigion yn cael eu rhoi gerbron cabinet y cyngor yn y gwanwyn.