BBC Cymru Fyw

Inc yn drech nag arfau

Published
image copyrightEPA
Mae Lara Catrin, o'r Felinheli, yn byw ym Mharis. Mi fuodd hi yn yr wylnos gafodd ei chynnal yn y ddinas neithiwr wedi'r ymosodiad terfysgol yn swyddfeydd y cylchgrawn dychanol Charlie Hebdo. Mae hi'n rhannu ei hargraffiadau gyda Cymru Fyw.
Bygythiad
Dros benwythnos cynta'r flwyddyn, fues i'n cerdded ar hyd arfordir Ynys Môn efo fy nheulu, yn mwynhau yr ychydig ddyddiau oedd gen i ar ôl yng Nghymru.
'Chydig wyddwn i y prynhawn hyfryd hwnnw, mai cwta dridiau yn ddiweddarach, y byddwn i mewn gwylnos, yn cofio am 12 o bobl a gafodd eu lladd gan derfysgwyr yn y ddinas rwyf bellach yn ei galw yn gartref.
Wrth i'r newyddion dorri am yr ymosodiad, ro'n i'n fud. Er fod Paris wedi wynebu bygythiad o ymosodiad terfysgol ers rhai misoedd, 'dwi wastad wedi teimlo'n saff yma. Ond heddiw fe ddigwyddodd yr hyn a ofnwyd, ac fe ddigwyddodd yn y modd mwya' erchyll.
image copyrightLara Catrin
image caption"Mae Charlie Hebdo wedi bod yn dychanu, a gwylltio, a difyrru am dros ugain mlynedd"
'Ma pawb yn ymwybodol ohono'
Dydw i byth yn darllen Charlie Hebdo, ac i ddweud y gwir, does ganddo ddim cylchrediad mawr iawn. 'Dyw'r mwyafrif ddim yn ei ddarllen, ac mae llawer yn cael eu digio gan y cylchgrawn, ond mae pawb yn ymwybodol ohono, ac yn credu bod ganddo le mewn cymdeithas ddemocrataidd.
Mae Charlie Hebdo wedi bod yn dychanu, a gwylltio, a difyrru am dros ugain mlynedd. Gyda chwerthin, daw'r gallu i drechu ofnau, a dyna oedd nod Charlie Hebdo.
image copyrightLara Catrin
image captionFe drodd yr wylnos ar Place de République yn rali
Wedi i mi orffen gweithio ddoe, fe benderfynais fynd i Place de la République ar gyfer yr wylnos. Mae République yn enwog am ei phrotestiadau, sy'n digwydd bron yn ddyddiol.
Wyddwn i ddim faint o bobl fyddai yno, a tybiwn y byddai llawer yn teimlo gormod o ofn i fentro allan, ond na. Mentrodd bron i 40,000 o bobl allan i'r oerfel, i ddangos eu cefnogaeth yn dawel a chadarn.
'Eu beiros yn eu dyrnau yn yr awyr'
Mae'n anodd disgrifio sut awyrgylch oedd yn y sgwâr neithiwr, ond y peth mwyaf amlwg oedd y teimlad o undod, a'r dewrder mae'r Ffrancwyr yn ei ddangos ar adegau fel hyn. Fe wyliais wrth i'r hen a'r ifanc, y Cristnogion a'r Mwslemiaid, sefyll yn dawedog, eu beiros yn eu dyrnau yn yr awyr, yn cefnogi rhyddid y wasg.
image copyrightLara Catrin
image captionDaeth 40,000 o bobl i'r wylnos yng nghanol Paris
Wrth i mi wylio dynion yn ysgrifennu "Je suis Charlie" mewn canhwyllau ar y llawr, dechreuodd un gŵr chwarae clarinet. Roedd hi'n anodd dal y dagrau yn ôl.
Wrth i'r noson fynd yn ei blaen fe drodd yr wylnos yn rali. Dechreuodd rai ddringo'r cerflun ar ganol y sgwâr, a môr o leisiau yn llafarganu "Je suis Charlie", gan nad ymosodiad ar Charlie Hebdo yn unig oedd hwn, ond ymosodiad ar bob un ohonan ni sydd am fynegi barn.
Chwifiwyd baneri gyda'r geiriau "Liberté d'expression" (Rhyddid mynegiant) a goleuwyd y geiriau 'NOT AFRAID' yng nghanol y sgwâr. Doedd dim teimlad o fod ofn yno. Os unrhywbeth, fe ddangosodd y cyfan i mi pa mor gryf yw'r Parisians.
Galaru cenedlaethol
Mae'n frwydr anweledig rŵan, brwydr i'r heddlu cudd a gwasanaethau milwrol Ffrainc a thu hwnt, a dyna sut y dylai hi fod. Tydi'r Ffrancwyr cyffredin ddim isio brwydro. Mae hi'n ddiwrnod o alaru cenedlaethol heddiw, a bydd munud o dawelwch am hanner dydd.
I deuluoedd a ffrindiau y rhai a laddwyd, i fyd y cartŵns, ac i Ffrainc, rwy'n dweud, 'Je suis Charlie'.