Grid Cenedlaethol yn ffafrio opsiwn peilonau i Fôn

Map Image copyright Crown copyright
Image caption Dyw'r manylion am yr union lwybr o fewn y coridor heb ei benderfynu - y llinell las yw'r llwybr peilonau presennol

Dywed y Grid Cenedlaethol eu bod am fwrw 'mlaen gyda chynlluniau dadleuol i ddefnyddio llwybr peilonau er mwyn cludo ynni i'r rhwydwaith cenedlaethol petai atomfa newydd yn cael ei chodi yn Wylfa.

Dywed y cwmni eu bod wedi penderfynu o blaid gosod ceblau dan ddaear yn un Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol ar yr ynys ac o dan y Fenai.

Mae Cyngor Môn - oedd am weld cyswllt tanfor - wedi beirniadu'r penderfyniad ac yn poeni am yr effaith ar yr amgylchedd.

Yn ôl llefarydd ar ran y Grid Cenedlaethol roedd yr opsiwn o roi'r cysylltiad yn y môr yn rhy ddrud ac yn creu problemau gyda gwaith cynnal a chadw.

Byddai'r rhwydwaith newydd yn cysylltu Wylfa Newydd, prosiect gwerth £8 biliwn, gydag isorsaf drydan ar y tir mawr ym Mhentir, Gwynedd.

Yn ôl amcangyfrifon mae'n costio tua 12 gwaith yn fwy i osod ceblau trydan dan ddaear.

Mewn cylchlythyr fydd yn cael ei anfon i gartrefi ym Môn a Gwynedd dywed y Grid Cenedlaethol eu bod yn ffafrio dilyn y llwybr peilon presennol, sy'n cael ei adnabod fel y coridor oren, ac sy'n dilyn yn fras y llwybr sydd wedi bod mewn bodolaeth ers y 60au.

Image caption Byddai llwybr newydd yn dilyn llwybr tebyg i'r un presennol

Yn ôl y cwmni dyw union leoliad y llwybr o fewn y coridor oren heb ei benderfynu eto.

"Gwyddom efallai bod ein penderfyniad yn amhoblogaidd gyda rhai pobl, ond byddai defnyddio ceblau tanfor yn fwy costus o lawer na'r opsiwn a ddewiswyd gennym a byddai'n achosi cryn broblemau technegol," meddai Martin Kinsey, uwch reolwr y prosiect.

"Fe ddywedoch chi wrthym fod Afon Menai ac AHNE Ynys Môn yn llefydd arbennig, ac felly rydyn ni'n cynnal astudiaethau i weld sut y gallwn roi'r ceblau o dan y ddaear yn yr ardaloedd hynny.

"Rydym yn gobeithio cyflwyno rhagor o wybodaeth am y cysylltiad a gynigir gennym gan ddefnyddio'r coridor Oren a chynnal ymgynghoriad arall yn nes ymlaen eleni."

Dywedodd y Cynghorydd Ieuan Williams, Arweinydd Cyngor Ynys Môn: "Rwy'n hynod siomedig nad yw'r Grid Cenedlaethol wedi gwrando ar y Cyngor Sir, na chwaith ar sylwadau pobl Môn a oedd o blaid cyswllt tanfor, yn hytrach na mwy o beilonau ar hyd yr Ynys.

''Ceir teimladau cryf iawn yn erbyn peilonau newydd, ac rydw i, fel nifer o drigolion, yn bryderus iawn am yr effeithiau posib ar bobl sydd yn byw a gweithio gerllaw, ein hamgylchedd, tirlun a thwristiaeth, sydd werth dros £250m y flwyddyn i economi'r Ynys," meddai.

Hyd y cysylltiad o Wylfa i Bentir - tua 35 cilomeder

Cost opsiwn sy'n cael ei ffafrio - tua £500 miliwn (uwchben ddaear)

Cost o groesi'r Fenai - tua £35-50 miliwn

Ffynhonnell: cwmni National Grid

Dywed Will Edwards sy'n ffermio yn ardal Rhosgoch, ger Llannerchymedd ar Ynys Môn ei fod eisoes yn byw o fewn tafliad carreg i dri pheilon a'i fod yn poeni y bydd yna fwy.

"Mae yn mynd i hagru'r ynys. Mae'r galw am bŵer yn Merseyside, nhw sy isio fo - pam ddim mynd o dan y môr i Queensferry ac yna i Lerpwl?

"Da 'chi'n son am brosiect £8 biliwn neu £10 biliwn, faint yn ychwanegol fyddai hyn mewn gwirionedd?" meddai.

Ac mae yna beth anesmwythyd ar ochr arall y Fenai hefyd.

Dywedodd John Wyn Williams, cynghorydd sir Pentir ar Gyngor Gwynedd: "Rwy'n ddigon hapus efo'r penderfyniad i fynd dan y Fenai, ond methu deall ydw i pam pe bai nhw wedi mynd i'r gost o roi'r ceblau dan ddaear i groesi'r Fenai, pam nad ydynt yn parhau dan ddaear i Bentir?

"Dwi'n deall bod rhaid newid ceblau o AV i DC i fynd dan ddaear, ac y byddai'n rhaid newid yn ôl eto i fynd uwchben y tir, mae hynny'n gost ychwanegol ynddo'i hyn.

"Dw i fel aelod lleol ddim am weld rhagor o beilonau," ychwanegodd.

Dywed y Grid Cenedlaethol y bydd yn parhau i drafod gyda chynghorau Gwynedd a Môn a sefydliadau eraill sydd â diddordeb yn y prosiect.

Mae'r cwmni hefyd wedi cyhoeddi na fydd yn parhau â'u cynlluniau pe na bai prosiect Wylfa Newydd yn derbyn sêl bendith yr awdurdodau.

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.