Diffyg arian yn cau sinema Scala
- Cyhoeddwyd

Mae sinema a chanolfan gelfyddydol yn Sir Ddinbych yn cau ei ddrysau am y tro olaf ddydd Iau, oni bai eu bod yn canfod cyllid i ddiogelu eu dyfodol.
Cafodd penaethiaid Scala wybod ym mis Rhagfyr eu bod yn colli cymhorthdal o £40,000 o fis Ebrill nesaf ymlaen.
Dyma benllanw blwyddyn anodd i Scala, yn dilyn cwymp yn niferoedd yr ymwelwyr oherwydd tywydd braf yr haf, ac yna bu rhaid diswyddo staff.
Cafodd Scala weddnewidiad gwerth £3.5 miliwn pan ail-agorwyd ei drysau yn 2009 ar ôl cau yn 2000.
"Mae angen cymorth ar frys," meddai Rhiannon Hughes, cadeirydd Ymddiriedolaeth Scala sy'n helpu i redeg y ganolfan.
Cynyddodd y pwysau ar y ganolfan ym mis Hydref pan fu'n ei chael yn anodd cwrdd â chytundeb credyd o £20,000 gyda Chyngor Sir Ddinbych er mwyn talu cyflogau staff.
Roedd y cyngor yn ogystal wedi rhoi benthyciad o £86,000 i Scala yn 2010.
Ym mis Rhagfyr, cytunodd cynghorwyr Sir Ddinbych i wneud gwerth £17m mewn toriadau cyllid yn effeithio ar wasanaethau'r cyngor a chymorthdaliadau a dalwyd i grwpiau gan gynnwys canolfan Scala.
Dywedodd rheolwr cyffredinol Scala, Chris Bond: "Fe hoffem ymddiheuro i'n holl gwsmeriaid a grwpiau cymunedol a fydd yn cael eu heffeithio gan y cau hwn.
"Er ein bod wedi gwneud popeth o fewn ein gallu i sicrhau dyfodol tymor hir y Scala, mae hyn bellach yn edrych yn ansicr iawn."
Bydd pum aelod o staff Scala yn colli eu gwaith, meddai cadeirydd yr ymddiriedolaeth Rhiannon Hughes.