Mjadzelics: 'Dim cof' o anfon lluniau anweddus

  • Cyhoeddwyd
Joanne MjadzelicsFfynhonnell y llun, Wales News Service
Disgrifiad o’r llun,
Dywedodd Joanne Mjadzelics nad oedd hi 'eisiau gwneud pethau ffiaidd' i ddal Watkins

Mae Joanne Mjadzelics, cyn gariad y pedoffeil Ian Watkins, wedi honni nad oes ganddi unrhyw gof o anfon lluniau anweddus.

Dywedodd Joanne Mjadzelics, 39, o Doncaster, wrth Lys y Goron Caerdydd nad oedd ganddi unrhyw gof o chwilio am ddelweddau o gamdrin plant ar y we 'chwaith.

Dywedodd ei bod hi eisiau i Watkins gael ei arestio, ond nad oedd hi eisiau "gwneud pethau ffiaidd i'w ddal".

Yn ôl Ms Mjadzelics, roedd hi wedi ceisio rhybuddio'r heddlu ar sawl achlysur. Mae hi'n gwadu'r holl gyhuddiadau yn ei herbyn.

Cafodd Watkins ei ddedfrydu i 35 mlynedd o garchar am geisio treisio babi, a throseddau eraill yn ymwneud â cham-drin plant yn rhywiol.

'Mewn i feddwl Ian Watkins'

Ddydd Iau clywodd y rheithgor nifer o sgyrsiau negeseuon testun rhwng y cwpl ym mis Awst 2011.

Roedd y sgyrsiau'n ymwneud â chamdrin plant, ond dywedodd Ms Mjadzelics ei bod hi'n ceisio "mynd mewn i feddwl Ian Watkins".

Dywedodd y diffynydd nad oedd hi'n gallu cofio'r delweddau anweddus mae hi wedi'i chyhuddo o'u hanfon at Watkins, nac yn gallu cofio chwilio amdanyn nhw.

"Byddwn i'n cofio pe bawn i wedi gwneud hynny, ond tydw i ddim wedi gwneud hynny", meddai.

Ychwanegodd nad oedd ganddi unrhyw gof o anfon ail ddelwedd, gan ddweud: "O bosib mod i wedi, ond tydw i ddim yn cofio."

Mynnodd Ms Mjadzelics ei bod hi eisiau i Watkins gael ei arestio.

Dywedodd: "Doeddwn i ddim eisiau bod 'efo fo, es i syth i'r brig er mwyn gofyn am gymorth i'w ddal, doeddwn i ddim eisiau gwneud pethau ffiaidd i'w ddal."

Pan ofynwyd a oedd hi'n cael ei hysgogi gan genfigen ynglŷn â dynes arall, dywedodd y diffynydd: "Nag oeddwn, roeddwn i'n pryderu ei fod yn camdrin plentyn."

'Obsesiwn'

Clywodd y rheithgor fwy o sgyrsiau rhwng y ddau, ac mewn un neges destun dywedodd Ms Mjadzelics wrth Watkins: "Mi wna' i unrhyw beth i ti...mi wna' i fyw bywyd o ffieidd-dra gyda thi."

Dywedodd y diffynydd ei bod hi'n "gwneud ei gwaith" fel putain, gan wadu bod ganddi obsesiwn â Watkins.

Honnodd: "Roedd gen i obsesiwn â cheisio ei ddal a'i gadw oddi wrth blant."

Dywedodd Jim Davies, ar ran yr erlyniad: "Rydym ni'n gwybod bod Ian Watkins wedi camdrin plant yn 2012, mae wedi cyfaddef hynny.

"Roeddech chi wedi bod yn bwydo ei archwaeth rywiol afiach am flynyddoedd cyn hynny...yr holl drafod am gamdrin, treisio a lladd plant, a ydych chi'n teimlo cyfrifoldeb?"

Atebodd Ms Mjadzelics: "Na, mi wnes i bopeth yn fy ngallu i'w atal."

Bydd yr achos yn parhau ddydd Llun.