Etholwyr wedi cael 'llond bol' ar gecru gwleidyddol

Elfyn Llwyd AS
Image caption Elfyn Llwyd AS

Mae etholwyr eisoes wedi cael "llond bol" o'r cecru etholiadol rhwng y Ceidwadwyr a'r blaid Lafur, yn ôl arweinydd Plaid Cymru yn San Steffan.

Ond mae'r etholiad fis Mai yn 'gyfle euraid' i gynyddu dylanwad Cymru, medd Elfyn Llwyd, sy'n ymddeol fel Aelod Seneddol eleni ar ôl 23 mlynedd.

Er bod pedwar mis cyn i neb fwrw pleidlais, mae'r dadlau chwyrn wedi hen ddechrau, gyda chyhuddiadau eisoes rhwng Llafur a'r Ceidwadwyr ynglŷn â safonau yn y Gwasanaeth Iechyd.

Dywedodd Mr Llwyd: "Dyma'r etholiad anodda' i'w ddarogan mewn cof, ac yn gyfnod cyffrous i ni ym Mhlaid Cymru sy'n herio'r consensws San Steffan.

"Eto i gyd, wedi 'mond rhai dyddiau o ymgyrchu mae pobol eisoes wedi cael llond bol o'r cecru, ac mae'n bryd i'r pleidiau i gyd fod yn onest â'r cyhoedd ac esbonio'n glir y dewis sy'n eu hwynebu fis Mai."

Wfftiodd y ddadl fod rhai pleidleisio i'r blaid Lafur er mwyn atal y Ceidwadwyr rhag ffurfio llywodraeth. Roedd y blaid Lafur wedi dod yn gyntaf yng Nghymru yn 2010 ond y Ceidwadwyr wnaeth ffurfio clymblaid â'r Democratiaid Rhyddfrydol.

"Mae Aelodau Seneddol Plaid Cymru wedi gwneud y gorau dros Gymru erioed," meddai Mr Llwyd. "Pan fo Plaid yn ennill, mae Cymru'n gryf. Y cryfa' ydyn ni, y mwyaf o ddylanwad fydd gan Gymru."