Noddwyr yn diogelu dyfodol y Proms Cymreig
- Cyhoeddwyd

Mae sylfaenydd y Proms Cymreig wedi dweud wrth BBC Cymru fod noddwyr wedi helpu i ddiogelu dyfodol y digwyddiad cerddoriaeth glasurol ar ôl 30 mlynedd mewn bodolaeth.
Mae'r arweinydd cerddorol Owain Arwel Hughes wedi cymryd rheolaeth o'r digwyddiad ar ôl i Gyngor Caerdydd benderfynu peidio â chynnig nawdd ariannol i'r proms.
Ond mae Owain Arwel Hughes yn rhybuddio mai dim ond nawdd o ffynonellau preifat all ddiogelu'r Proms Cymreig i'r dyfodol.
Dywedodd Cyngor Caerdydd y byddai'n dal i gynnig lleoliad, staff a marchnata, a hynny yn ystod cyfnod o ''amgylchiadau ariannol llym''.
Mae'r awdurdod lleol wedi cynorthwyo i gynnal cost y digwyddiad blynyddol sydd yn cynnwys cyfres o gyngherddau cerddoriaeth glasurol, sydd ddim yn gysylltiedig â'r BBC Proms yn Llundain.
Ond mae cyngherddau clasurol yn aml yn costio mwy i'w cynnal na'r arian sydd yn cael ei greu drwy werthu tocynnau.
Roedd yn rhaid i Mr Hughes, sydd wedi chwarae rhan flaenllaw yn y digwyddiad ers 1986, dalu o'i boced ei hun am y mwyafrif o gyngherddau'r llynedd.
Canolfan Dewi Sant
Bydd yn dal i gael defnyddio Canolfan Dewi Sant yng Nghaerdydd ond nid oes arian i gynnal y gyfres nesaf o gyngherddau ym mis Gorffennaf.
Dywedodd Mr Hughes wrth BBC Cymru: ''Daeth Cyngor Caerdydd ataf i i gael cyfarfod. Fe gawson ni gyfarfod eithriadol o dda ond roedden nhw yn dweud yn eithaf plaen 'does na ddim arian' - ond allai gael y neuadd.
''Mae'r neuadd yma, diolch byth, yn saff. Ac felly beth wnes i oedd ffurfio elusen er mwyn i bobl allu rhoi arian i mewn i'r elusen - elusen Proms Cymreig yw hi - a byddai'r arian yn mynd i ddim byd arall, dim ond y proms.''
Bydd yn gallu derbyn arian o werthiant tocynnau ond mae'n dweud y bydd yn rhaid denu nawdd o ffynonellau preifat os yw'r cyngherddau i barhau.
Ychwanegodd Mr Hughes: ''Mae'r holl fyd celfyddydau mewn penbleth o achos y toriadau - y celfyddydau yw'r cyntaf i ddioddef - rydyn ni'n gwybod hyn.''
Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Caerdydd: ''Mae gweithio mewn partneriaeth gyda ffigwr cerddorol mor flaenllaw ag Owain Arwel Hughes i ddiogelu parhad yr ŵyl ddiwylliannol hynod bwysig hon yn dangos be all gael ei gyflawni pan fod yr holl wasanaethau cyhoeddus dan bwysau mor fawr.
''Rydym yn edrych ymlaen at weithio gydag Owain i gynhyrchu digwyddiad llwyddiannus iawn.''
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd9 Gorffennaf 2014