Clwb Pêl-droed Caerdydd: Newid crysau yn ôl i las?
- Cyhoeddwyd

Bydd cyfarwyddwyr clwb Pêl-droed Caerdydd yn cyfarfod ddydd Gwener, ac fe fydd y posibilrwydd o newid lliw crysau'r clwb yn ôl o goch i las yn cael ei drafod.
Cafwyd cyfarfod rhwng swyddogion y clwb a nifer o'r cefnogwyr yn Stadiwm Dinas Caerdydd ddydd Iau - cyfarfod oedd wedi ei gynnal yn dilyn cais gan berchenog y clwb Vincent Tan.
Fe chwaraeodd Mr Tan ran flaenllaw yn y penderfyniad dadleuol i newid lliw crysau'r clwb yn 2012.
''Dwi'n meddwl y bydd Vincent yn rhoi dipyn o ystyriaeth i hyn'', meddai cadeirydd y clwb, Mehmet Dalman.
Nid oedd Vincent Tan yn y cyfarfod ddydd Iau ond dywedodd Dalman y byddai'n adlewyrchu barn y cyfarfod iddo, ac i fwrdd y clwb.
''Fe fydd yn gwrando, ac fe fydd yn ystyried. Achubodd Vincent Tan y clwb pan roedd angen ei achub. Ni fydd fyth yn gadael y clwb mewn twll,'' ychwanegodd.'
''Noson dda iawn''
"Roedd hon yn noson dda iawn i glwb Caerdydd. Mae'r hyn ddaeth allan o'r cyfarfod yn gwbl eglur. Roedd 'na deimlad cryf y dylai'r clwb ddychwelyd i liw glas, ond roedd 'na ddealltwriaeth hefyd fod Vincent yn hoffi coch ac y dylid parchu hyn,'' meddai Mr Dalman.
Mae niferoedd y cefnogwyr sydd yn mynychu gemau'r clwb wedi gostwng ers i'r clwb ddisgyn o uwch gynghrair Lloegr, ond fe ddywedodd cefnogwyr yn y cyfarfod y byddai cefnogwyr yn dychwelyd petai crys y clwb yn newid yn ôl i las.
Cafodd y cyfarfod ei gynnal rhwng swyddogion a thrawstoriad o gefnogwyr y clwb a gwleidyddion lleol.
Yn dilyn y cyfarfod roedd Tim Hartley, cadeirydd Ymddiriedolaeth Cefnogwyr Dinas Caerdydd, yn obeithiol fod y swyddogion wedi gwrando ar eu dymuniad i newid lliw crysau'r clwb i las:
''Ein gobaith ni yw ar ôl yr hyn da ni'n glywed, a'r ymateb da ni wedi ei gael gan y cyfarwyddwyr oedd yna, a gan y cadeirydd, yw mai dyna yw eu dymuniad nhw. Mae hyd yn oed y rhai oedd o blaid y crysau coch yn y lle cyntaf wedi newid eu barn nhw,'' meddai.
Nid yw Vincent Tan wedi mynychu gemau'r clwb y tymor hwn, ond fe ofynnodd i'r cadeirydd Mehmet Dalman a'r prif weithredwr Ken Choo 'i wahodd trawstoriad o gefnogwyr a rhanddeiliaid' i'r cyfarfod ddydd Iau.
Roedd 27,430 o gefnogwyr ar gyfartaledd yn mynychu gemau'r clwb yn 2013-14 pan roedd y clwb yn uwch gynghrair Lloegr, ond mae'r niferoedd wedi gostwng i 19,333 y tymor hwn.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd28 Chwefror 2014
- Cyhoeddwyd21 Tachwedd 2014
- Cyhoeddwyd4 Mawrth 2014