Richard Meade wedi marw
- Published
image copyrightGetty Images
Mae un o Olympiaid mwyaf llwyddiannus Prydain y Cymro Richard Meade wedi marw yn 76 oed.
Cafodd ei eni yng Nghas-gwent a marchogaeth oed ei gamp.
Fe enillodd ddwy fedal aur dros Brydain ac un aur unigol yn y Gemau Olympaidd yn ystod ei yrfa.
Roedd yn aelod o dîm Prydain wnaeth ennill Pencampwriaeth y byd yn 1970 a 1982, a thair pencampwriaeth Ewropeaidd.
Cafodd ei enwi'n Bersonoliaeth Chwaraeon y Flwyddyn, BBC Cymru, yn 1972.
Roedd wedi bod yn cael triniaeth am ganser ers iddo dderbyn diagnosis ym mis Hydref y llynedd.