Cyhuddo dyn o fygwth staff AS Dwyrain Abertawe
- Cyhoeddwyd

Mae dyn wedi ei gyhuddo o fygwth staff ar ôl i heddlu arfog gael eu galw i swyddfa aelod seneddol yn Abertawe ddydd Iau.
Cafodd yr heddlu eu galw yn dilyn honiadau fod y dyn wedi gwneud bygythiadau i ladd.
Doedd yr aelod seneddol Sian James ddim yn ei swyddfa yn etholaeth dwyrain Abertawe ar y pryd.
Mae John Ceciliato, 53 o Gendros wedi ei gyhuddo o ymddwyn yn fygythiol.