Cwest Hebogwr: Marw'n ddamweiniol
- Published
Mae cwest wedi dyfarnu mai damwain oedd marwolaeth pennaeth parc bywyd gwyllt, Ceri Griffiths.
Dyfarnwyd na fyddai'r dyn 71 mlwydd-oed wedi gallu osgoi coeden a ddisgynnodd ar ei ben tra'n ei thorri yng Nghanolfan Heboga Cymru yn y Barri ym mis Hydref 2014.
Bu farw Mr Griffiths yn yr ysbyty o anafiadau difrifol i'w ymennydd o ganlyniad i'r ddamwain.
Roedd Mr Griffiths a'i fab Griff yn torri coed i'w defnyddio fel tanwydd i'w losgwr coed.
Deliodd barafeddygon â Mr Griffiths yn y parc cyn iddo gael ei gymryd i Ysbyty Athrofaol Cymru yng Nghaerdydd ble bu farw bedair awr yn ddiweddarach.
Sefydlodd y cyn-athro Mr Griffiths y ganolfan ar ôl prynu hen adeilad Sw Caerdydd yn 1980 gyda'r bwriad o roi gwersi i bobl ynglŷn â sut i weithio gyda hebogiaid.
Dros y blynyddoedd fe ehangodd ei waith a daeth yn arloeswr mewn bridio'r adar, ac roedd hefyd yn darparu hebogiaid a thylluanod ar gyfer cwmnïau ffilm a theledu.
Roedd yn ddiweddar wedi bod yn gweithio ar brosiect gydag adar yn Dubai yn ogystal.
Straeon perthnasol
- Published
- 15 Hydref 2014